Heliwr
Heliwr

Cartref : Home |  Amdanom : About  |  Casgliadau : Collections  |  Oriel : Gallery  |  Map  |  Cyswllt : Contact

Privacy Policy |  Contact   |  Site  Map

LADI’R HENLLYS FAWR (English version below)

 

Ffermdy yw’r Henllys Fawr yn agos i Aberffraw. Llawer o flynyddoedd yn ôl roedd y teulu oedd yn byw yno yn cael ei boeni gan ysbryd. Roedd yr ysbryd yn ymddangos yn y nos ac yn deffro’r teulu efo sn dychrynllyd. Clywid sn cerdded i fyny ac i lawr y grisiau ac o un ystafell i’r llall. Ambell dro clywid y drysau’n clepian nes wneud i bawb neidio ag arswyd.

 

Dro arall goleuid y t gan oleuni llachar nes dallu pawb, ac ai allan yn lawn mor sydyn. Hyd yn hyn nid oedd y teulu wedi gweld dim, ond clywed sôn a thwrw, ond un noson fe welodd y gweision y bwgan. Yr oeddynt allan yn hwyr, wedi bod mewn ffair neu noson lawen, neu ar ryw berwyl arall. Wrth iddynt groesi'r lard am y t ymddangosodd y bwgan: Ar y dechrau nid oedd yn edrych fel bwgan o gwbl, ond fel boneddiges dal a hardd. Gwisgai ddillad sidan a'r rheini'n disgleirio. Am ei hwyneb yr oedd gorchudd o sidan tyllog. Gerddai'n araf tuag at y gweision ac yr oedd eu gwallt yn sefyll ar eu pennau. Yn sydyn trodd yn olwyn fawr o dan a diflannodd i'r ddaear.

 

"Wa!" meddai Wil, ac am y t.

 

"Mam bach!" gwaeddai Siôn, ac am lofft y stabl.

 

"Adref! Adref!" sgrechiai Guto'r certmon.

 

"Margiad annwyl!" llefai Del, ei gwr.

 

Diflannodd y gweision mor gyflym a'r Ladi Wen. Aeth y pethau hyn ymlaen am flynyddoedd, ac yn wir, symudodd dau neu dri o deuluoedd o'r Henllys Fawr oherwydd y bwgan.

 

Un nos Sul ddechrau Tachwedd, yr oedd y teulu i gyd ond un wedi mynd i'r eglwys. Nid oedd y forwyn fach yn teimlo'n dda iawn ac felly arhosodd yn y t a daeth ei chariad i gadw cwmni iddi. Ifan oedd ei enw, ac yr oedd yn fachgen mawr a chryf. Ymhen dipyn aethant i sôn am y Ladi Wen, a broliai Ifan nad oedd arno ei hofn hi na'r un ysbryd arall. Cyn iddo gael y gair olaf allan bron, heb na sn na math o rybudd, safai'r Ladd Wen ar ganol llawr y gegin. 'Roedd ei gwallt melyn modrwyog yn disgyn yn llaes dros ei hysgwyddau. Yn un llaw daliai grib ac yn y llall rôl o bapur.  Ond beth am Ifan a'r forwyn fach? 'Roedd y ddau wedi dychryn gormod i ddweud gair, eu hwynebau'n  wyn fel y galchen, a'u gwefusau'n las a chrynedig. Ifan y broliwr’r yn wir. Cerddodd y Ladi Wen o gwmpas y gegin laweroedd o weithiau, ac yna safodd yn sydyn. Agorodd y drws a nododd ar Ifan i'w dilyn. Ifan druan yr oedd yn meddwl ei bod ar ben arno, ond rhaid oedd ufuddhau. Dilynodd y Ladi Wen i fyny'r grisiau ac i ystafell gefn dywyll. Ond yr oedd rhyw lygedyn o olau yno, a gwelodd Ifan hi’n dal ei bys at y gornel. Roedd y to'n isel a’r trawstiau o fewn cyrraedd, a deallodd ifan fod ar y Ladi Wen eisiau iddo chwilio yn y gornel. Estynnodd y llanc law grynedig, a chafodd hyd i sypyn cal-ad yno, wedi ei rwymo'n ofalus mewn hen hosan. Agorodd Ifan yr hosan ac oddi mewn iddi yr oedd pentwr o aur. Yna trodd ei ben i ofyn i’r Ladi Wen pwy oedd biau'r aur, ond nid oedd olwg ohoni.

 

 

THE LADY OF HENLLYS FAWR

 

Near Aberffraw is a farm called Henllys Fawr, and at one time it was haunted by a ghost. It would awaken the family at night with hideous noises. Ghostly footsteps would be heard climbing the stairs, and going from room. Doors would be slammed, and dazzling lights would appear from nowhere. Up to this point no-one had actually seen the ghost itself. Then one night the menservants saw it!

 

They were out late one night having been to a Noson Lawen, and as they were crossing the farmyard on their way home the ghost appeared. T first it did not look like a ghost but like a tall and beautiful lady. She wore a satin dress and her face was covered by a veil. As she walked slowly towards the men, she turned into a gigantic wheel of fire and disappeared  into the ground. All the men were frightened out of their wits.

 

Then one Sunday night in November all but one of the household had gone to church. One of the maids was not feeling well, and stayed at home with her boyfriend to keep her company. He was a strong, well built lad, and he said that he was not afraid of the ghost.

 

Then without warning or noise, tge ghost stood before them in the middle of the kitchen. She was very beautiful, with her hair in golden ringlets fslling down over her shoulders. In one hand she held a comb and in the other a roll of paper.

 

The boy was terrified, and when the ghost beckoned him to follow her, he nearly fainted, but he was compelled to obey. He followed the lady upstairs to a small back room which had only a small window. In the dim light he saw her pointing to one corner. There the ceiling was low, and the joists within reach. The lad went there reluctantly, and to his amazement he found a sock with something in it. When he opened it he found it to be full of gold. He asked the ghost who owned the gold, but it had vanished.

 

The Lady of Henllys Fawr, as the ghost became known, troubled the family no more.

 

What became of the gold? Unfortunately the story does not say!

 

Ladi’r Henllys Fawr
The Lady of Henllys Fawr
 Bwgan Clwchdernog.

Neidr Penhesgyn.

Maen Morddwyd.

Huw Cymunod.

Lleidr Llandyfrydog.

Merch Ifan Gruffydd.

Ladi'r Henllys Fawr.

Ogof y March Glas.

Seiriol Wyn a Chybi Felyn.

Gwrachod Llanddona.

Royal Charter.