Heliwr
Heliwr

Cartref : Home |  Amdanom : About  |  Casgliadau : Collections  |  Oriel : Gallery  |  Map  |  Cyswllt : Contact

Privacy Policy |  Contact   |  Site  Map

MERCH IFAN GRUFFYDD  (English version below)

 

Dros gant a hanner o flynyddoedd yn ôl trigai dyn o'r enw Ifan Gruffydd ym mhlwyf Llandyfrydog. Gwr gweddw ydoedd ac nid oedd dim yn anghyffredin ynddo, and fe ddaeth yn bur enwog oherwydd dau beth. Yn gyntaf, yr oedd ganddo ferch eithriadol o brydferth, ac, yn ail, digwyddodd rhywbeth rhyfedd iddi. Felly y daeth Ifan Gruffydd yn enwog drwy'r holl sir. Trigai Ifan a 'i ferch Gwen mewn tyddyn bychan o'r enw Hafod Isaf ac y mae'r hanes yn dechrau ar ddydd Nadolig.

 

 

Yr oedd Gwen wadi addo mynd gyda'r nos i fferm o'r enw Hafod Uchaf i gynnal noson lawen. Yr oedd pobl ifainc yr ardal am gyfarfod yn y ffermdy i ganu, i ddawnsio, i ofyn cwestiynau a dweud storlau, a hynny hyd oriau man y bore. Ar ol  te ddydd Nadolig yr oedd Gwen yn barod i gychwyn am yr Hafod Uchaf, and gofynnodd ei thad iddi roi'r fuwch i mewn yn y beudy. Erbyn hyn yr oedd yn nosi, a’r lleuad yn dechrau codi. Chwiliodd Gwen am y fuwch and nid oedd olwg ohoni yn unman. Aeth i ddweud wrth ei thad ei bod yn methu a gweld y fuwch. Y tro hwn aeth y tad efo Gwen, ond, er chwilio cae ar ol cae, nid oedd hanes o'r fuwch. Dyma gyrraedd Cae Lleidr Llandyfrydog ac yn y fan honno y dig­wyddodd yr hyn a wnaeth Gwen ac Ifan Gruffydd yn enwog drwy Sir Fon i gyd.

 

Ar ganol y cae gwelsant nifer o'r Tylwyth Teg yn dawnsio mewn cylch mawr. Wedi eu gwisgo dillad o saith liw'r enfys, yr ceddynt yn chwyrlio wrth ddawnsio. Daeth rhywbeth dros Gwen – ac yna - CAMODD I'R CYLCH. Mewn eiliad diflannodd y ferch  a’r cwmni lliwgar a gadawyd y tad ar ei ben ei bun ar gae Lleidr Llandyfrydog ar nos Nadolig. Na, nid oedd dim ar ol ar y cae ond y glaswellt, yr hen leidr a droied yn garreg, ac Ifan Gruffydd. Trodd adref yn ddigalon, a thrannoeth aeth y si ryfedd drwy Landyfrydog fel tan gwyllt - yr oedd Gwen, merch Ifan Gruffydd, ar goll: Ymhen ychydig ddyddiau yr oedd pawb ym Mon yn gwybod y stori ac eiai llawer i'r Hafod Isaf i gyd­ymdeimlo a'r tad oherwydd iddo golli ei unig blentyn.

 

Ysgydwai rhai o'r hen bobl eu pennau, cystal dweud na ddychwelai Gwen yn ôl i Landyfrydog, tra oedd erall yn fwy gobeithiol. Aeth wythnosau heibio a throdd yr wythnosau yn fisoedd, and nid oedd na lliw na llun o Gwen. Yn sydyn, cofiodd ei thad.fod dewin o'r enw John Roberts yn byw ym Maenaddfwyn a phenderfynodd ofyn ei gyngor. Gwr doeth oedd y dewin hwn a oedd yn byw mewn bwthyn bach, bach ar ochr Mynydd Bodafon. Dywedodd Ifan Gruffydd yr holl hanes wrth John Roberts, ac yno edrychodd y dewin yn graff ar y tad. Caeodd un llygad, gan agor y llall, ac yna caeodd y ddau yn dyn

"Os oes arnat ti eisiau cael dy ferch yn ol," meddai wrth y tad, "dos i'r un cae nos Nadolig nesaf, and cofia fod yno  i'r un funud ag y diflannodd dy ferch. Chwilia am y pedwar dyn cryfaf yn y gymdogaeth, a phryna raff gref, newydd sbon. Y mae'n rhaid i'r pump ohonoch fod yn y cae ar yr.amser iawn. Yna, clyma’r rhaff am dy ganol, a phan well di Gwen yn dawnsio, neidia i'r cylch a thyn hi allan."

 

Yr oedd gan Ifan Gruffydd wythnosau i batatoi a medd­yliodd pwy oedd y pedwar dyn cryfaf yn yr ardal. Wedi gwneud ei feddwl i fyny, gofynnodd a oeddynt yn barod i’w gynorthwyo. Yr oedd y pedwar yn fwy na pharod ac felly y gwaith nesaf oedd cael rhaff newydd gref. Yr adeg honno yr oedd rhaffwyr yn  byw ym mhentref Llannerch--y medd, a heb oedi dim, aeth Ifan Gruffydd i'r stryd lle'r oeddynt yn byw a gofynnodd iddynt blethu rhaff eithriadol o gref. Wrth gwrs, fe wyddai y rhaffwyr am ei helynt, ac addawsant ddechrau ar y gwaith ar unwaith. Buont am ddyddiau'n cerdded i fyny ac i lawn y stryd yn plethu'r raff. Hon oedd y gryfaf a ddaeth allan o Heol Tudur erioed­d. Dyna ydoedd enw'r stryd.

 

Ar ol te ddydd Nadolig dyma Ifan Gruffydd air pedwar dyn cryf yn cychwyn allan am gae Lleidr Llandyfrydog, gan gario'r rhaff ar eu hysgwyddau,Cyraeddasant yr union fan lle'r oedd ei ferch wedi diflannu flwyddyn ynghynt. Clymodd Ifan Gruffydd y rhaff am ei ganol, a dyna'r cwlwm mwyaf a welwyd erloed. Gafaelodd y dynion cryf ym mhen arall y rhaff, a dyma ddisgwl, a disgwyl. Machludodd yr haul yn.araf deg a dechreuodd y lleuad godi i gymryd ei le. Wedi i gochni'r haul lwyr ddarfod, a melyn­der y lloer yn goleuo'r cae, dyma'r cylch Tylwyth Teg yn ymddangos, a Gwen yn dawnsio'n hapus yng nghanol y cwmni Iliwgar. Neidiodd Ifan Gruffydd i'r canol, a gafaelodd yn Gwen,

 

"Tynnwch: Tynnwch;" gwaeddodd nerth ei ben. Plygodd y dynion cryf eu breichiau cyhyrog; dyna un plwc, ac yr oedd Ifan Gruffydd a Gwen yn glir o'r cylch hud. "PWFF;" Diflannodd y dawnswyr ac yn sefyll ar y cae yr oedd Gwen, ei thad, y pedwar dyn cryf, ac, wrth gwrs, yr hen leidr carreg, ac yno y mae of hyd heddiw.

 

Cwestiwn cyntaf Gwen oedd - "Ymhle y mae'r fuwch?" Nid oedd yn cofio iddi fod am flwyddyn yng ngwlad y Tylwyth Teg. Yr oedd blwyddyn o amser wedi mynd ymaith fel dwr o dan bont.

 

Aeth pawb adref yn llawen ac aeth Gwen i'r noson lawen i'r Hafod Uchaf.

 

A ydyw'r stori'n wir? Fe welodd hen Leidr Llandyfrydog y cwbl a ddigwyddodd, ond gan mai carreg ydyw, ni fedr ddweud yr hanes wrthym.

 

IFAN GRUFFYDD’S DAUGHTER

 

On a farm near Chlorach, a short distance from Bodafon Mountain lived a man called Ifan Gruffydd He had an exceptionally pretty daughter called Gwen. Since Ifan's wife had died, Gwen helped with the farm work.

 

One Christmas Eve, Gwen was preparing to go to a 'Noson Lawen' on a near by farm. This was an evening of singing and dancing and making merry, and it was usually held in the barn. Before she set off, her father asked her to bring the cow into the byre for the night, and so Gwen went out to try to find it. After seeking the cow for some time, she still had not seen it, so she returned to ask her father to help her. Both went out together.

 

As they came to the field where, many years ago a thief had been turned to stone, they saw a number of 'tylwyth teg', or little people, dancing in a circle. Gwen went into the circle to join them, but she promptly disappeared. Ifan could do nothing for he was not wise in the ways of the Tylwyth Teg.

 

Although he went out night after night the Tylwyth Teg was nowhere to be seen.

 

After a while he went to see a man who lived on Bodafon Mountain. This man had the reputation of being a wizard, and, more importantly, he knew the ways of the Tylwyth Teg. He told Ifan to enlist the help of four strongest men he could, then buy the strongest rope he could find, and return to the field next Christmas Eve. The Tylwyth Teg would reappear and Gwen would be with them. He should then tie one end of the rope around his middle, and the four men should hold the other end. He then had to jump into the circle, hold his daughter tightly and shout to the men to pull them both out.

 

Ifan found his four strong men and the rope makers of Llanerchymedd made the strongest rope they had ever made for Ifan.

 

On Christmas Eve the party set off for the field of the old thief, and there, sure enough, was the circle of Tylwyth Teg with Gwen dancing happily amongst them. Ifan tied the rope around his middle and jumped into the circle. He held his daughter tightly and shouted to the men 'tynnwch' (pull).

 

The men pulled with all their might, and Ifan and his daughter came free of the circle. The Tylwyth Teg disappeared.

 

Ifan was extremely happy to have his daughter back, but when he questioned her, she could remember nothing of the year she had spent with the little people.

Listen to story
Merch Ifan Gruffydd : Ifan Gruffydd’s Daughter
 Bwgan Clwchdernog.

Neidr Penhesgyn.

Maen Morddwyd.

Huw Cymunod.

Lleidr Llandyfrydog.

Merch Ifan Gruffydd.

Ladi'r Henllys Fawr.

Ogof y March Glas.

Seiriol Wyn a Chybi Felyn.

Gwrachod Llanddona.

Royal Charter.